1.1        Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r cyfle i gynnig sylwadau ar y strategaeth uchod er mwyn cynorthwyo i lywio trywydd ymchwiliad y pwyllgor. Deallaf y byddaf yn derbyn gwahoddiad maes o law i gynnig tystiolaeth lafar i’r pwyllgor ar y strategaeth hon. Edrychaf ymlaen at y cyfle i wneud hynny.

2 Cyd-destun

2.1     Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd

-     Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru;

-     Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

2.1     Un o amcanion strategol y Comisiynydd yw dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi. Darperir y sylwadau isod i’r perwyl hwnnw, ac yn unol â rôl y Comisiynydd fel eiriolwr annibynnol ar ran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru y gallai’r ymgynghoriad hwn effeithio arnynt.

2.2     Gofynna’r pwyllgor am sylwadau mewn ymateb i ddwy her benodol y bydd angen eu hwynebu wrth weithredu strategaeth ar gyfer y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Dyma gyflwyno sylwadau ar yr heriau penodol hynny. Rwyf wedi darparu sylwadau i Lywodraeth Cymru ar y strategaeth yn ei chyfanrwydd. Mae’r sylwadau hynny ar gael ar ein gwefan. Hyderaf y bydd yr holl sylwadau hyn o ddiddordeb ac o ddefnydd.

3. Gwella’r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu ac yn cefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod yn y maes addysg

3.1     Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad cynhwysfawr ar werthusiad a gynhaliwyd o’i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Nodir o fewn adran ‘datblygu’r gweithlu’ yr adroddiad hwnnw rai casgliadau ynghylch llwyddiant I fynd i’r afael â’r her o gynllunio’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg. Nodir:

-     Na wnaeth y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyfrannu’n arwyddocaol at gynyddu màs critigol y gweithlu cyfrwng Cymraeg.

-     Nad yw’r Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon a ddefnyddir yng Nghymru er mwyn pennu nifer o lefydd ar raglenni Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn llwyddo i flaengynllunio’r gweithlu fydd ei angen ar y sector addysg cyfrwng Cymraeg.

-     Nad yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn casglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg athrawon mewn ffordd systematig, a bod hynny’n rhwystr i gynllunio’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn effeithiol.

3.2     Adlewyrchir rhai o ganfyddiadau’r adroddiad hwnnw yn adran 6.9.6 yr Adroddiad 5- mlynedd a gyhoeddais yn ddiweddar ar sefyllfa’r iaith Gymraeg, sy’n trafod heriau I ddatblygu’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg. Cyflwynwyd copi o’r adroddiad hwnnw i’r pwyllgor. Hyderaf y bydd cynnwys yr adroddiadau hyn o gymorth i’r pwyllgor wrth gynnal yr ymchwiliad hwn.

3.3     Amlygaf yn fy adroddiad yr heriau sylweddol iawn sy’n wynebu’r sector cyn-statudol cyfrwng Cymraeg, yn enwedig o ran datblygu a chadw’r gweithlu. Mae cynllun Cam wrth Gam y Mudiad Meithrin yn hyfforddi unigolion i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector gofal. Er hynny, mae’n hysbys bod prinder sylweddol mewn gofalwyr sy’n medru gwasanaethu trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae darparwyr yn parhau i’w chael yn anodd i recriwtio a chadw siaradwyr Cymraeg. Wrth symud at gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio, bydd angen buddsoddiad helaeth er mwyn sicrhau gweithlu gofal plant sy’n medru darparu’r holl oriau hynny yn Gymraeg ymhob rhan o Gymru.

3.4     Gwyddys bod diffyg athrawon ar gyfer addysgu rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft mathemateg a gwyddoniaeth, yn enwedig yn y sector uwchradd. Er mwyn mynd i’r afael â hynny, bydd angen cryfhau’r cyswllt rhwng anghenion y gweithlu addysg, gweithgareddau’r prifysgolion a’r cyngor gyrfaol a roddir i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr. Lle bo prinder siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu, mae’n hanfodol i ysgolion a phrifysgolion geisio denu siaradwyr Cymraeg I ddilyn cyrsiau perthnasol er mwyn llenwi’r bylchau hynny. Amlyga’r adroddiad ar y gwerthusiad o Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru nad oes cyswllt digon cadarn ar hyn o bryd rhwng anghenion y gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg a blaenoriaethau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

3.5     Bu rhai ymdrechion i fynd i’r afael â’r diffyg athrawon Cymraeg i addysgu pynciau penodol. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymhelliant ariannol I fyfyrwyr ddilyn y cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion o fewn pynciau lle mae prinder. Mae cynllun y ‘Cyfnod Sabothol’ yn enghraifft arall o weithredu cadarnhaol er mwyn llenwi’r bylchau yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg. Er yr ymdrechion clodwiw hyn, ymddengys o dystiolaeth a gyhoeddwyd gan sefydliadau megis CYDAG bod bylchau o hyd a bod angen datblygu cynlluniau ac ymyrraeth o’r newydd er mwyn cau’r bylchau hyn.

3.6     Noda fy Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r iaith Gymraeg brinder sgiliau Cymraeg o fewn y gweithlu addysg ôl-16. Mae’r dystiolaeth ar hynny yn amlygu diffyg defnydd sylweddol o sgiliau Cymraeg y gweithlu o fewn y sector hwn. Er enghraifft, dengys data’r Llywodraeth ar gyfer 2015 bod 9.4% o staff academaidd ein prifysgolion yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mai 61% yn unig ohonynt sy’n gwneud hynny. Amlyga hynny gyfle i fanteisio’n well ar y sgiliau Cymraeg sydd eisoes ar gael o fewn gweithlu’r sector hwn.

3.7     Fel yr awgryma gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn, mae cynnig cefnogaeth I athrawon addysgu trwy gyfwng y Gymraeg neu’r Saesneg fel ei gilydd yn elfen hollbwysig o ddarpariaeth addysgol effeithiol. Bydd aelodau’r pwyllgor yn ymwybodol o’r sylw cyhoeddus diweddar i ddiffyg gwerslyfrau Cymraeg i gefnogi addysgu cyfrwng Cymraeg, i effeithiau andwyol hynny ar ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r pwysau ychwanegol ar athrawon o orfod cyfieithu gwerslyfrau Saesneg i’r Gymraeg eu hunain. Mae CYDAG wedi ymchwilio i’r broblem hon ac wedi adnabod diffyg gwerslyfrau ac adnoddau dysgu Cymraeg ar gyfer nifer sylweddol o gymwysterau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Cyflwynwyd y canfyddiadau hynny i Lywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru ac anogaf y pwyllgor i roi sylw i’r dystiolaeth hon wrth ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg.

4. Sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc

4.1     Er mwyn sicrhau gweithlu dwyieithog i’r dyfodol, ar gyfer y sector addysg a phob sector cyflogaeth arall, byddai cynyddu’n sylweddol nifer y plant ifanc sy’n derbyn eu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yn gam rhesymegol. Mae tystiolaeth yr arolwg Y Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013–15 yn dangos cydberthynas rhwng rhuglder a pha mor gynnar mewn bywyd mae rhywun yn dysgu’r Gymraeg. Os am greu mwy o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n medru hyfforddi a chymhwyso yn y dyfodol i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector addysg a sectorau cyflogaeth eraill, bydd rhaid yn gyntaf gynyddu’r ddarpariaeth gofal cyfrwng Cymraeg.

4.2     Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd llai na chwarter o bobl ifanc 15–24 oed yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg ac wrth edrych ar y siart isod gwelir nad yw’r cyfran hwnnw wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Amlyga’r siart ein bod yn colli siaradwyr Cymraeg wrth iddynt adael yr ysgol.

4.3     Dengys yr arolwg Y Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013–15 mai tua hanner y siaradwyr Cymraeg 16–29 oed yng Nghymru sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae’n debyg bod hynny’n rhannol oherwydd mai dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol wnaeth llawer o’r rheini, yn hytrach nag yn y cartref fel iaith gyntaf, a bod hynny’n effeithiol ar ruglder. Efallai bod diffyg amlder defnydd y Gymraeg ymysg y grŵp oedran yma hefyd yn rhwystr i ruglder. Ar gyfartaledd mae dros hanner siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, tra mai ond 39% o siaradwyr Cymraeg 16–29 oed sy’n gwneud hynny.

4.4     Wrth ystyried y rhesymau dros golli sgiliau Cymraeg a llai o ddefnydd o’r Gymraeg yn sgil troi’n 16 oed, mae’n debyg iawn mai un o’r rhesymau pennaf yw’r lefel isel o addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y cyfnod addysg ôl-16. Yn 2014/15, derbyniodd 5.1% o fyfyrwyr sefydliadau addysg uwch Cymru rywfaint o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr un flwyddyn, cyflawnwyd llai nag 0.1% o weithgareddau dysgu mewn colegau addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg a llai na 8% ohonynt yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Isel iawn hefyd yw nifer y prentisiaid sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Gellir ond casglu o hynny bod y sector addysg ôl-16 yng Nghymru yn addysgu a hyfforddi mwyafrif llethol ein pobl ifanc i weithio trwy gyfrwng y Saesneg. Credaf y bydd sicrhau cyflenwad digonol o athrawon i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddibynnol ar wyrdroi’r cyfrwng addysgu o fewn y sector ôl-16.

4.5     Wrth gwrs, ni chrëir gweithlu’r dyfodol gan y sector addysg ôl-16 yn unig. Bu cryn feirniadaeth dros y blynyddoedd diwethaf o’r addysgu mewn ysgolion o ran ei lwyddiant i greu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus, yn enwedig ymysg y rheini nad ydynt yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd i hynny oblygiadau amlwg o ran gallu’r rheini aiff ymlaen i fod yn athrawon i addysgu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd argymhellion gan yr Athro Sioned Davies ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem honno o fewn ysgolion ond nid yw’n amlwg sut mae’r argymhellion hynny wedi eu gweithredu hyd yma.

4.6     I grynhoi felly, credaf mai man cychwyn unrhyw ymdrech ddifrifol i sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yw creu mwy o siaradwyr Cymraeg ifanc, rhugl yn gyffredinol. Mae cyfrwng iaith gofal cyn-ysgol plentyn yn allweddol o ran hynny ac mae polisi Llywodraeth Cymru o gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio yn cynnig cyfle i gynyddu’n sylweddol nifer y plant ifanc sy’n derbyn eu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n mynd ymlaen i ddysgu yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cynyddu’r pwll recriwtio o weithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg i’r dyfodol. Yn ogystal mae angen gwyrdroi cyfrwng iaith addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gan roi’r gorau i baratoi mwyafrif llethol ein pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Yn gywir

Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg